Roeddwn i wedi bod yn ffrindiau gydag Euron Davies ers 13 mlynedd, ond doeddwn i ddim yn ei nabod o. Roeddwn i’n gwybod roedd well gyda fo chwarae pedwar yn y cefn, na thri, ond wyddwn i ddim llawer o gwbl am ei fywyd tu hwnt i bêl-droed. Dros fwy na degawd roedden ni wedi trafod dim byd ond pêl-droed. A mwy na hynny, doedden ni ond wedi trafod pêl-droed llawr-gwlad. Does gen i ddim syniad beth oedd ei farn am amddiffyn Lerpwl, ond rydw i’n gwybod fod o’n edmygu chwarae trefnus yr Wyddgrug. Roedd o’n arbenigwr ar chwaraewyr a thactegau bob clwb yn y Gogledd.
Mae dynion yn cyfathrebu trwy chwaraeon yn aml. A dyna sut oedd hi gydag Euron a fi. Roedd o’n rheolwr fy nghlwb lleol, y Felinheli, ac o dan ei arweiniad fe gafodd y clwb ei drawsnewid. Euron wnaeth ddewis fy meibion i chwarae eu gemau cyntaf ar lefel y dynion. Roedden ni gyd yn ei hoffi ac yn ei edmygu gymaint, a bydd yna golled enfawr ar ei ôl.
Bu farw Euron yn sydyn, yn 46 oed, ar ei wyliau yn Efrog Newydd yr wythnos yma. Dyle’r tymor pêl-droed fod wedi gorffen, ond roedd gan y Felinheli gemau eto i’w chwarae, rhai oedd wedi eu gohirio oherwydd ein Gaeaf gwlyb.
Mae bod yn rheolwr tîm pêl-droed yn cymryd gymaint o ymrwymiad, ac roedd gwneud y gwaith am 13 o flynyddoedd gydag un clwb yn anhygoel. Roedd Euron yn ddyn pêl-droed, ac roedd ei deulu yn deall hynny. Roedd merched Euron wedi ymuno gyda ni fel clwb i dalu teyrnged i’w Tad ar lan y Fenai. Roedd yna gymaint o ddagrau a chariad yn amlwg ar y prynhawn trist yna.
Dydw i ddim yn cofio Euron yn edrych yn flin, hyd yn oed ar ôl colled. Roedd o bob tro yn gwenu gyda’i lygaid cynnes, ac roedd o wastad yn ddyn positif iawn. Roeddwn i yn ei nabod ac yn ei barchu gymaint fel rheolwr pêl-droed ond rŵan rydw i’n difaru peidio ei nabod o’n well fel dyn.