Rhian Cadwaladr sy’n rhoi cyngor i ddyn sy’n pendroni a ddylai ddweud wrth ei ŵr nad ydy o eisiau cwrdd â dynion eraill ar-lein…

 

Annwyl Rhian,

Mae fy ngŵr a fi wedi bod yn briod ers tair blynedd, ac efo’n gilydd am bum mlynedd cyn hynny. Roedd ei brofiadau ef o fod yn hoyw yn wahanol iawn i fy mhrofiadau i, yn yr ystyr fod ei deulu wedi bod yn hynod gefnogol ohono. Mae fy rhieni wedi gwrthod siarad gyda fi ers i fi ddod allan. Yn ddiweddar, mae fy ngŵr wedi awgrymu ein bod ni’n cwrdd â dynion hoyw eraill ar-lein am ychydig o “hwyl”. Mae gen i ofn y gallai hyn arwain at lawer o broblemau – mae e’n llawer mwy hyderus a chymdeithasol na fi, tra mod i yn fwy tawel a swil. Dw i ddim wir eisiau bod yn rhan o unrhyw we-fflyrtio fel hyn, ond dydw i ddim chwaith eisiau i fy ngŵr feddwl fy mod yn boring. Ond oni ddylwn i fod yn ddigon iddo fe? Pam bod e moyn fflyrtan fel hyn gyda dynion eraill? Dw i’n poeni na fydd yn gallu cadw at yr addewid i gadw’r fflyrtio yn y rhith fyd yn unig, ac y bydd e’n trefnu i gyfarfod dynion yn y byd go-iawn. Does gen i ddim sail i’r ofn yma, mae e wedi bod yn driw iawn o’r cychwyn. Ond mae yna ryw hen lais bach annifyr yng nghefn fy meddwl yn codi bwganod. Ddylwn i ddweud wrtho fe nad ydw i’n hapus gyda’r syniad, neu adael iddo gael ychydig o hwyl a gweld beth sy’n digwydd?

 

I ddechrau, ga i gyfeirio at ddechrau eich llythyr a dweud fod yn ddrwg iawn gen i glywed nad ydi eich rhieni yn siarad efo chi ers i chi ddod allan. Dw i’n meddwl fod hynna yn drist iawn ac yn golled, nid yn unig i chi, ond iddyn hwythau. Dw i’n fodlon betio eu bod nhw’n meddwl amdanoch chi yn rheolaidd. Mae’n anodd gen i gredu y byddai unrhyw riant yn medru jest cau’r drws ar eu plentyn a byth meddwl amdano eto. Mae yna dipyn o amser wedi mynd heibio ers i chi ddweud wrthyn nhw, ac mae’r oes wedi newid ers hynny, felly tybed ydi hi’n amser i chi estyn allan i geisio cymodi? Hwyrach y byddwch chi’n dweud – ‘pam y dyliwn i wneud yr ymdrech i gymodi, y nhw gaeodd y drws?’ Ond dw i’n credu ei bod hi weithiau yn fwy anodd i’r rhai gaeodd y drws i’w ail-agor achos mae hynny yn dangos eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad yn y lle cyntaf, a tydi rhai ddim yn gyfforddus efo cyfaddef hynny. Does gennych chi ddim i’w golli wrth drïo nag oes? Heblaw ella cael eich brifo eto os nad ydi’r drws yn agor. Chi ŵyr os ydi o werth y risg yna.

Ymlaen at brif bwnc eich llythyr. Dw i’n gredwr cryf mewn greddf – y chweched synnwyr yna sy’n dweud rhywbeth wrthych chi yng nghefn eich meddwl, y teimlad yn eich bol – y gut feeling yna, sy’n eich rhybuddio i fod yn wyliadwrus – y llais bach annifyr, fel yr ydach chi’n ei alw. Dw i’n credu ei fod o’n rhywbeth pwysig sydd gennym ni fel dynol ryw i’n cadw ni’n saff ac felly mae’n bwysig ein bod ni’n dysgu sut i’w adnabod, ac i wrando arno. Mae’n dda felly eich bod chi’n cymryd hyn o ddifri.

Craciau yn y berthynas?

Dw i ddim yn meddwl y dylai unrhyw unigolyn fynnu fod unigolyn arall yn gwneud rhywbeth dydyn nhw ddim yn hapus, ac yn gyfforddus, i wneud, yn enwedig os mai rhywbeth i blesio nhw ydi o, a ddim er lles yr unigolyn arall. Os ydach chi wedi dweud ’na dw i ddim yn gyfforddus i gyfarfod dynion eraill ar-lein’ yna fe ddylai eich gŵr dderbyn hynny yn ddi-lol. Mi fyddai o yn bod yn amharchus petai yn peidio. A chithau efo’ch gilydd ers wyth mlynedd, fe ddylai o wybod nad ydach chi’n boring (neu byddai o ddim efo chi yn y lle cyntaf), ac ni ddylech chi orfod poeni ei fod o’n meddwl hynny. Y cwestiwn mawr ydi, a fyddech chi’n fodlon iddo gael yr “hwyl” yma hebddo chi? Mae’n amlwg fod eich greddf chi wedi ateb hynna yn barod – na fyddech. Dw i’n credu eich bod chi’n iawn i amau y byddai hynny yn arwain at bob math o broblemau.

Rydach chi’n dweud eich bod yn poeni y byddai’r fflyrtio yn dechrau yn y rhith fyd ond yn symud i’r byd go-iawn – ai dyna eich poen mwyaf? Ai dyna pryd y basa chi’n ei weld o fel bod yn anffyddlon? Achos ym marn amryw, a fi yn un ohonyn nhw, mae creu perthynas yn y rhith fyd yn anffyddlondeb hefyd. Mae’n dangos fod rhywbeth ar goll ym mherthynas byd go-iawn y person sy’n gwneud hynny. Felly mae arna’i ofn fod yn rhaid i chi ofyn cwestiwn anodd i chi’ch hun – pam mae o eisiau gwneud hyn? Dw i’n meddwl fod y cwestiwn eisoes yn eich meddwl – ond yr unig un fedar ei ateb o ydi eich gŵr. Felly fy nghyngor i ydi i chi ddewis eich amser yn ofalus a phan nad oes unrhyw densiwn yn yr aer, a bod gennych chi ddigon o amser, eisteddwch lawr a gofyn iddo fo, achos os oes yna unrhyw graciau yn dechrau dangos yn eich perthynas – rŵan ydi’r amser i’w llenwi cyn iddynt fynd yn hollt rhy fawr i’w drwsio. Dw i’n dymuno pob lwc a dewrder i chi.