Fedra’ i ddim dweud i mi fwynhau cyfres ddrama ddiweddaraf S4C, Creisis. Ond nid yw hynny o angenrheidrwydd yn golygu nad oeddwn i’n gwerthfawrogi nifer o bethau da oedd ynddi. Hynny yw, wnes i ddim mwynhau fel y cyfryw gan ei bod hi’n wylio eithaf anghyfforddus.