Pentref bach o 80 o dai yw Porthyrhyd, ond mi fydd yn tyfu yn sylweddol ac mae yna ofnau am ddyfodol yr iaith Gymraeg yno.

Er i’r Comisiynydd Iaith ofyn i Gyngor Sir Gaerfyrddin asesu effaith codi 42 o dai ar y Gymraeg ym Morthyrhyd, wnaeth y cyngor – sy’n cael ei reoli gan Blaid Cymru – ddim gwrando… a hynny er bod nifer o drigolion lleol yn poeni am yr effaith mewn ardal lle mae 55.8% yn medru’r iaith.