Mae lot o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi bod yn flin iawn dros yr wythnos ddiwethaf. Roedd rhai mor flin, mor sydyn ar ôl y cyhoeddiad mawr gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru mae’n gwneud i fi feddwl eu bod nhw wedi bod yn ymarfer bod yn flin. Mae’n ymddangos i mi roedden nhw eisiau, hyd yn oed yn ysu, am gael bod yn flin.