Fel rheol, mae digwyddiadau yn yr Alban yn rhyw fath o ddrych o’r hyn sydd, neu allai, ddigwydd yng Nghymru. Drych sy’n chwyddo pethau rhywfaint, yn eu hystumio rhywfaint, ond yn codi llawer o’r cwestiynau sy’n wynebu Cymru hefyd.
I ddechrau, mae’n dangos nad ydi symudiad mor ddelfrytgar ag annibyniaeth yn gallu osgoi rheolau gwleidyddiaeth bob dydd ac mae’r hyn sydd wedi digwydd i Humza Yousaf, y Prif Weinidog yng Nghaeredin, yn esiampl berffaith.