Doedd y Seintiau Newydd heb golli gêm drwy gydol y tymor yn uwch gynghrair y Cymru Premier, a heb golli yng Nghwpan Cymru ers 2018… ond. Ond!

Socsan gafwyd dros y Sul, wrth i Gei Conna drechu’r Seintiau o ddwy gôl i un a chipio Cwpan Cymru, a hynny o flaen camerâu Sgorio ar gae Rodney Parade yng Nghasnewydd.

Roedd y Seintiau Newydd wedi gorffen 33 pwynt yn uwch na Cei Connah ar frig y gynghrair, felly teg dweud mai stori Dafydd a Goleiath gafwyd yn y ffeinal eleni.