“Dewch i mewn i sŵn y Gymraeg a rhoi faint bynnag o Gymraeg sy’ gyda chi ar waith”.

Dyna wahoddiad hyfryd yr Archdderwydd Mererid yn seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam ddydd Sadwrn diwethaf.

Bu dros 500 o drigolion lleol ac aelodau Gorsedd Cymru yn gorymdeithio drwy strydoedd y ddinas, er mwyn “croesawu’r ardal i’r Eisteddfod a’r Eisteddfod i’r ardal”, gyda seremoni ar y diwedd yng Nghylch yr Orsedd.