“Y set orau ryden ni wedi gweld mewn oes.”

Dyna farn Heledd Owen ar fand o ferched 10 ac 11 mlwydd oed fu yn cefnogi Adwaith mewn gig yn eu milltir sgwâr yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar.

Heledd yw drymiwr Adwaith, un o sêr disgleiria’r Sîn Roc Gymraeg a thriawd sydd wedi gigio ym Maes B, Glastonbury a Siberia yn Rwsia.

Felly mae Adwaith wedi gweld llwyth o fandiau yn chwarae yn fyw, ac mae’r ffaith iddyn nhw frolio’r band ifanc Penne Orenne yn drawiadol.