Weithiau yng Nghymru, mae’n hawdd teimlo ein bod ni ond yn cael hanner y stori. Yr wythnos yma, rydyn ni wedi gweld negeseuon dramatig ac emosiynol gan Emlyn Lewis a Charlie Corsby o glwb pêl-droed Met Caerdydd. Yn ôl y ddau chwaraewr, maen nhw wedi cael eu gorfodi i adael y clwb ar ôl blynyddoedd o wasanaeth. Yn dilyn y newyddion, cyhoeddodd y newyddiadurwr Steffan Garrero, o’r podlediad poblogaidd The Socially Distant Sports Bar, eu bod nhw, fel noddwyr, yn mynnu bod y clwb yn