Beth yw gwlad?

Lleoliad? Daearyddiaeth? Hinsawdd? Planhigion ac anifeiliaid?

Dyna’r llwyfan, yn sicr. Ond yr hyn sy’n troi’r llwyfan yn wlad yw’r bobl sy’n byw yno. A’u traddodiadau, eu hiaith a’u hanes.

Mae hyn yn cynnwys cynnyrch ei hartistiaid, ac yn cwmpasu’r llyfrau a grëwyd gan ei nofelwyr a’i haneswyr. A’r paentiadau sy’n cynnig dehongliad o’u gwlad, a bywyd ei phobl dros y canrifoedd. Ac, wrth gwrs, cerddoriaeth. O’r hen ganeuon gwerin hyd at waith bandiau cyfoes.