Y peth rhyfedda’ am y polisi 20 milltir yr awr oedd natur y gwrthwynebiad iddo fo. Mi allech chi feddwl bod Mussolini a Hitler wedi cydweithio ar y syniad.

Ychydig o brotestio sydd yna am y ffordd y mae ffoaduriaid yn cael eu trin; does yna fawr ddim cwyno am bolisïau tuag at bobol ag anableddau; does dim deiseb anferth i gefnogi pobol ddigartre’ … ond arafwch ddeng milltir ar gyflymder ceir mewn trefi a phentrefi, a watsiwch chi!