Mae’n ddiddorol fod materion Newid Hinsawdd yn cael eu cyplysu efo Materion Gwledig yn swydd newydd Huw Irranca-Davies, sef Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.

Yr awgrym ymhlyg yn hynna ydi mai problem wledig ydi hon ac mai yng nghyd-destun newid hinsawdd y mae gweld amaethyddiaeth hefyd.