Bellach mae’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i gynyddu gwariant y Deyrnas Unedig ar ei lluoedd arfog i 2.5% o’r holl wariant cyhoeddus. Mae hi’n debyg y byddech chi’n meddwl y byddai cenedlaetholwr brwd fel fi’n wrthwynebus i hyn, ond mewn difri dwi’n meddwl ei fod i’w groesawu, ac yn gwbl angenrheidiol.
Does gen i ddim cariad at y fyddin – mae yn sefydliad digon afiach am nifer enfawr o resymau – ond o edrych ar gyflwr y byd fel y mae, mae gwirioneddol angen iddi hi, ynghyd â byddinoedd eraill y gorllewin, fod mewn gwell cyflwr o lawer. Does ond deufis ers i bwyllgor amddiffyn Tŷ’r Cyffredin glywed petai’r Deyrnas Unedig mewn rhyfel gyda grym o faint tebyg iddi, allai ond para i ymladd am ddeufis ar y mwyaf. Mae ei chadwyni cyflenwi’n wantan, ei milwyr heb adnoddau digonol nac addas, ac nid oes ganddi’r gallu i gynhyrchu digon o arfau a ffrwydradau.
Mae parodrwydd y lluoedd hefyd yn destun pryder. Roedd hi’n gryn embaras i’r llynges yn gynharach eleni i’w chludwr awyrennau mwyaf, HMS Queen Elizabeth, orfod tynnu allan o ymarferion NATO am nad oedd y propelor yn gweithio’n gywir, rhywbeth nad oedd yn amlwg tan y funud olaf. Nid oedd hynny ond ddeunaw mis wedi i’r ail long o’i fath, HMS Prince of Wales, dorri lawr oddi ar Ynys Wyth.
Hefyd mae cymariaethau anffafriol tu hwnt i’w wneud. Er mai’r Deyrnas Unedig sy’n gwario’r swm uchaf ar amddiffyn yn Ewrop (ac eithrio Rwsia), ystyrir mai lluoedd arfog Ffrainc yw rhai gorau’r cyfandir. Yn wir, mae gan Ffrainc y gallu i weithredu’n strategol ar ei phen ei hun i raddau helaeth, yn wahanol i’w chymydog trist. Mae hyn oll er gwaetha’r ffaith bod y Ffrancwyr yn gwario tua £43bn ar eu byddin, o gymharu â £55bn y Deyrnas Unedig. Gan nodweddu tueddiadau diweddar Prydain, mae hyn yn syml achos effeithiolrwydd. Mae twll du anferth o £17bn yng ngwariant y Deyrnas Unedig, a braidd dim yng nghyllideb filwrol Ffrainc.
Hefyd, mae’r Almaen yn gwario mwy na Ffrainc ar amddiffyn ac mae ei lluoedd arfog hi’r un mor pathetig â’i gwrthwynebiad at Rwsia. Mae hyn oll yn creu darlun o freuder Ewropeaidd yn wyneb Rwsia gynyddol beryglus yn 2024. Mae Wcráin wrthi’n colli ar faes y gad ar hyn o bryd. Os bydd Trump yn cael ei ethol yn ddiweddarach eleni, fe fydd Wcráin yn gwbl ddibynnol ar gefnogaeth Ewrop. A dydi Ewrop heb baratoi.
Yn sgîl hynny mae unrhyw gynnydd i gyllideb filwrol y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn gam angenrheidiol i’w gymryd, p’un a ydyn ni’n licio’r Deyrnas Unedig a’i lluoedd arfog ai peidio. Ond rhaid ar ei wario’n effeithlon. Achos os fydd Wcráin yn disgyn, dylai pob gwlad ar y cyfandir ofni dyheadau Putin a’i ffrindiau.