Maddeuwch y plaendra, ond mae twristiaid yn dal i wagio’u bŵals mewn mannau cyhoeddus yn Llanberis, ac mae’r sefyllfa yn sarhad ar y trigolion lleol.

Ers y cyfnod covid a staycations bu ymwelwyr megis morgrug yn y pentref prydferth wrth droed Yr Wyddfa.

Does dim bai ar y bobol hyn am ddod yma, ond maen nhw ar fai am adael llanast ar eu hôl.

Torcalonnus oedd darllen geiriau Eric Baylis ar wefan golwg360 ddechrau’r wythnos.