Rydw i newydd ddod nôl o Wlad Pwyl a’r cyfarfod cyntaf gyda theulu fy nghariad, a hynny dros gyfnod gŵyl y Pasg.

Mae cyfnod y Pasg yr un mor bwysig â’r Nadolig yng Ngwlad Pwyl, gyda thraddodiadau unigryw sy’n newydd iawn i fi fel person seciwlar o ganolbarth Cymru!

Un o’r rhai pwysicaf yw creu ŵyn mas o fenyn (‘baranki’), paentio ac addurno wyau a chreu bob math o gacennau, sydd wedyn yn cael eu pacio’n dwt mewn i fasged gyda napcyn gwyn gyda blodyn ffug drosti.