Ar ôl iddo ddigwydd, sylweddolodd Heledd ei bod hi wedi treulio’i hoes yn meddwl fod trais yn rhywbeth oedd yn llawn dieithrwch. Rhywbeth a ddigwyddai mewn dinas, efallai, ar ôl iddi gael ei gwahanu oddi wrth y merched ar ôl noson arall, yn chwilio am dacsi ar strydoedd nad oedd hi’n eu hadnabod. Neu mewn llain gul rhwng adeiladau uchel, rhywle na fyddai golau dyfrllyd y stryd yn ei gyrraedd. Sŵn traed yn brysio tuag ati; arogl chwys a chwrw a sigaréts ar rywun nad oedd hi wedi ei weld o’r blaen