Mae’r gell gosb (sin-bin) wedi bod yn ddull o gosbi chwaraewyr rygbi ers 2001, ac yn ddiweddar fe wnaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru ddatgan y bydd y gell gosb yn dod yn rhan o gêm y bêl gron y tymor nesaf. Ar ôl treialu llwyddiannus dros 1,300 o gemau mewn chwe chystadleuaeth eleni, byddwn ni’n gweld chwaraewyr yn cael eu hel o’r cae am blwc (temporary dismissals) ar bob cau pêl-droed.