Un o’r dadleuon tros gefnogi brwydr Wcráin yn erbyn Rwsia ydi ei bod hi’n frwydr i ddiogelu gweddill Ewrop. Un o’r dadleuon tros atal ymosodiadau Israel ar bobol Gaza ydi fod gweddill y byd mewn peryg.

I’r rhan fwya’ o bobol, ar ôl chwe mis, mae’n ymddangos bod dialedd Israel eisoes wedi mynd y tu hwnt i reswm. Mi fydd hynny’n fwy amlwg fyth os ydi’r ymosodiad ar dref Rafah yn digwydd gan beryglu bywydau cannoedd o filoedd o ffoaduriaid.