Bu Golwg yn sgwrsio gyda phennaeth y sefydliad yn dilyn y newyddion mawr y bydd yn colli cyfran o’i gyllideb…

Fel Cyngor y Celfyddydau, y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru, mae’r Cyngor Llyfrau yn wynebu toriad o 10.5% i’w gyllideb yn dilyn cadarnhad y Llywodraeth o’i gyllideb ddrafft 2024/25.

Bydd y torri nôl yma yn golygu bod £450,000 yn llai o gyllid ar gyfer y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

Yn ôl Prif Weithredwr y sefydliad, mae’r Cyngor Llyfrau mewn “sefyllfa hollol wahanol” i’r sefydliadau eraill sy’n wynebu toriadau, am eu bod “yn uniongyrchol” yn cefnogi busnesau bach – gweisg llyfrau a siopau annibynnol. Bu Golwg yn holi Helgard Krause am sefyllfa’r Cyngor ar hyn o bryd.

Dileu grantiau a cholli swyddi da yn yr iaith Gymraeg

Mae Helgard Krause wedi anfon llythyr at y gweisg Cymraeg a Saesneg yng Nghymru yn egluro sut mae’r toriadau am effeithio arnyn nhw.

Er bod y toriadau’n cynnwys toriad o £273,000 i grantiau cyhoeddi, mae’r Cyngor am ddiogelu ei raglenni cyhoeddi, sef y cytundebau pedair blynedd hynny sydd yn caniatáu i’r gweisg benderfynu yn annibynnol pa lyfrau maen nhw am eu comisiynu.

Mae hefyd wedi penderfynu diogelu swyddi yn y byd cyhoeddi drwy beidio â thorri cyllid. “Ond gyda thoriad o 10.5% rhaid i’r arian ddod o rywle,” meddai Helgard Krause.

Felly mae’r Cyngor wedi dileu’r Grantiau Llyfrau Unigol, pan fydd y gweisg yn gwneud cais a chomisiynu awduron i sgrifennu rhywbeth penodol. Hefyd, mae wedi dileu ei Grantiau Marchnata, a’i gyllid ar gyfer hyfforddiant. Mae’r Cyngor wedi bod yn cynnig talu am arbenigwyr allanol i gynnig hyfforddiant i’r diwydiant bob blwyddyn, mewn meysydd fel golygu, marchnata, cynhyrchu, data digidol, cyfryngau cymdeithasol/TikTok ac ati.

“Mae pob llinell o grantiau wedi cael eu heffeithio, achos mae’n rhaid i ni ffeindio’r arian o rywle,” meddai Helgard Krause.

Ac yn fewnol, mae’r Cyngor wedi penderfynu peidio ag ail-lenwi dwy swydd a hanner a oedd yn wag.

“Ro’n ni’n ofni bod hwn yn ein hwynebu hi, ac mae’n annheg llenwi swydd pan chi’n ofan eich bod angen ei cholli,” meddai. “Maen nhw ar hyn o bryd wedi cael eu dileu o’r strwythur. Wrth gwrs r’yn ni’n siarad am swyddi da, mewn corff sy’n gweithredu yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg yn Aberystwyth. Felly maen nhw’n swyddi sydd yn cario premiwm. Os yw’r sefyllfa yn newid yn y blynyddoedd i ddod, byddan ni’n eu cynnig nhw eto. Wrth gwrs, dydi’r gwaith ddim yn mynd, felly mae pwysau ar y staff sy’n bodoli’n barod yn lot fwy, mae’n rhaid i ni fod yn fwy clyfar.

“Am y flwyddyn i ddod, ry’n ni’n gallu diogelu’r rhaglenni – lle mae gweisg yn gallu penderfynu yn annibynnol be maen nhw’n ei gomisiynu. Ond mae lot o lyfrau ychwanegol yn cael eu cyhoeddi drwy grantiau unigol, lle mae rhywun yn anfon cais i fewn, a dyna ble mae’r toriadau mawr yn digwydd. Mae hwn yn mynd yn erbyn pobol sydd efallai yn newydd, neu weisg bach sydd falle ond â thri neu bedwar o lyfrau y flwyddyn.

“Ry’n ni wedi amddiffyn y prif weisg, dyna le mae prif fuddsoddiad dros y blynyddoedd wedi bod, ac ry’n ni’n gallu dibynnu eu bod nhw’n cynhyrchu.”

Roedd tua 50 o bobol yn gyflogedig gan y Cyngor pan ymunodd Helgard Krause â’r Cyngor Llyfrau gyntaf yn Ebrill 2017. Ar ond ar ôl toriadau diweddaraf yma dim ond 36 o staff sydd gan y Cyngor.

“Ry’n ni wedi colli traean o’r staff,” meddai. “O ran rhai pethau, r’yn ni yn fwy effeithiol, ry’n ni wedi buddsoddi mewn systemau ac yn y blaen, ond mae hwn yn doriad sylweddol yn y tair blynedd diwethaf.

“Dw i jyst yn teimlo ein bod wedi gwneud popeth y dylen ni fod wedi ei wneud ac wedyn… maen nhw wedi ein torri ni eto. R’yn ni wedi bod reit ofalus ac wedi rhagweld ac yn y blaen. Dyna pam bod y toriad diwethaf yma yn dorcalonnus, rhaid i mi ddweud.”

Effaith niweidiol ar gwmnïau bach annibynnol

Mae Helgard Krause yn siomedig fod y Llywodraeth wedi gwneud yr un toriadau i’r cyrff yn gyfartal, gan ddadlau bod y Cyngor Llyfrau yn cefnogi diwylliant pwysig y siopau a’r gweisg annibynnol.

“Fel maen nhw’n ei ddweud, publishing is a numbers game,” meddai. “Y ffordd mae rhywun fel Penguin yn gwneud arian ydi efallai mae gyda nhw argraffiad cyntaf o hanner miliwn o gopïau. Dydi hyn ddim yn gallu digwydd yn y Gymraeg achos mae nifer y siaradwyr yn llawer llai. Wedyn mae’n rhaid rhoi’r gefnogaeth.

“Ond beth sydd wedi digwydd – ry’n ni wedi cael arian fflat dros y degawd diwetha, ni wedi cael argyfwng costau byw gyda phopeth yn cynyddu yn sylweddol ac wedyn, ar ben popeth, fe gawson ni Covid, a nawr ni wedi cael toriad 10.5%. Mae angen i wlad ddatrys yr argyfwng gyda’n gilydd – dw i’n derbyn hynny. Y broblem sy’ gen i, gyda sut mae’r toriad yn mynd i gael ei weithredu.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu… fod pawb yn cael yr un toriad, beth bynnag yw’r gyllid i ddechre… Dw i’n derbyn bod yr Amgueddfa a’r Llyfrgell Genedlaethol yn colli lot mwy o swyddi, ond ry’n ni hefyd yn colli llyfrau a grantiau. D’yn ni ddim, fel y nhw, yn gwario ein harian ar ein swyddi. Lleiafrif yr arian sydd yn mynd ar swyddi – mae’r mwyafrif yn mynd ar gwmnïau bach annibynnol sydd yn cyhoeddi llyfr yn y ddwy iaith. Dyna pam bod yr effaith niweidiol yn lot, lot mwy na’r sector cyhoeddus.”

Mae hi’n dadlau bod £450,000 o doriad i’r byd cyhoeddi yn fwy arwyddocaol nag mewn meysydd eraill, megis Cymru Greadigol – sef asiantaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo’r diwydiannau creadigol.

“Os ydych chi’n meddwl am Gymru Greadigol yn ariannu ffilm, neu gyfres deledu, mae [£450,000] yn bitw o gyllideb,” meddai. “Ond ar yr ochr cyhoeddi, rydych chi’n colli’r cyfan. Mae’r impact yn llawer iawn mwy ac yn lot mwy uniongyrchol, ar gwmnïau annibynnol ledled Cymru sy’n gweithredu drwy’r Gymraeg, a dyna le mae’r broblem.”

Annog y Llywodraeth i brynu’r llyfrau

Felly mae Helgard Krause wedi sgrifennu at y Llywodraeth yn cynnig ateb… sef bod y Llywodraeth eu hunain yn prynu’r llyfrau.

“Un o’r datrysiadau sy’n gallu gwneud byd o wahaniaeth… yw i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn prynu llyfrau,” meddai Helgard Krause. “Os oes arian ar gael gyda nhw, dylen nhw brynu llyfrau a’u rhoi i’r ysgolion, i’r llyfrgelloedd. Dydi o ddim yn hand-out, mae e’n rhywbeth sy’n parhau, yn rhoi budd i’r dysgwyr o ran cael llyfr. Mae’r gymdeithas a’r cymunedau yn cael y budd, a’r gweisg yn cael y fantais o fod wedi gwneud yr elw.

“Mae’n llawer iawn gwell gan y mwyafrif o weisg, os yw rhywun yn prynu llyfrau, yn hytrach na chael mwy o grantiau. Beth sy’ wedi digwydd ydi bod y sector cyhoeddus dan bwysau – ac mae cyllideb yr ysgolion a’r llyfrgelloedd yn cael eu torri a byddan nhw’n methu prynu rhagor o lyfrau chwaith. Mae pobol rhy dlawd i wneud unrhyw extras.

“Mae arian [grant] sy’n mynd at wasg yn cael ei roi dan y ddealltwriaeth eu bod nhw angen gwneud cyfraniad masnachol at y llyfrau, felly maen nhw’n angen gwerthu llyfrau i wneud yr holl swm i weithio. Does dim un project ble r’yn ni’n ariannu popeth.

“Ar hyn o bryd, r’yn ni’n siarad am grantiau ond ry’n ni hefyd yn siarad am sefyllfa economaidd beryglus iawn sef bod dim arian o gwmpas y lle, lle mae pobol yn talu biliau, a dim arian ar ôl. Ydyn nhw’n prynu llyfrau? Na, a bydd ysgolion na llyfrgelloedd chwaith.”

Dim posib mentro ar awduron

Ychydig cyn iddi sgwrsio gyda Golwg, torrodd y newyddion fod y cartwnydd poblogaidd Huw Aaron wedi ennill dêl saith llyfr gyda’r wasg fawr Saesneg, Penguin.

Mae wedi sgrifennu neu ddarlunio tua 60 o lyfrau Cymraeg, ac wedi elwa o gefnogaeth y Cyngor Llyfrau. Mae Helgard Krause yn ofni y bydd y math yma o awdur unigryw mewn perygl yn y dyfodol oherwydd y toriadau.

“Dyma un o’n prif awduron ni… ac r’yn ni’n ei golli achos fod yna ddêl anferth i gael,” meddai. “Dw i ddim yn gwybod faint o amser sydd gan Huw bellach i’w roi ar lyfrau Cymraeg, ac ef sy’n creu llyfrau sydd efallai ychydig bach yn wahanol. Mae yn apelio at blant sy’ ddim yn leicio geiriau cymaint, yn leicio’r ochr comics a darlunio ychydig bach yn fwy.

“Falle gallai rhywun fel yna stopio cyhoeddi yn Gymraeg. Os oes dêl enfawr ar yr ochr Saesneg, chi’n gallu gwerthu deg gwaith mwy o lyfrau drwy’r Saesneg achos mae’n farchnad ryngwladol. Y cwestiwn yw os yw’r ochr Gymraeg o dan bwysau’n ofnadwy o ran cefnogaeth ariannol – ble mae’r incentives? Bydd llai o gyfleoedd, ac mae’n ddrud ariannu gwaith celf gwreiddiol.”

‘Rhaid cadw’n bositif’

Mae’r Cyngor Llyfrau yn trio ystyried “yn ofalus iawn” pa fath o elfennau mae yn methu â’u gwneud eleni, yn ôl Helgard Krause.

“Wrth gwrs, mae elfennau craidd fel Gwobrau Tir na Nog, Eisteddfod yr Urdd ac yn y blaen – byddwn ni’n eu cadw nhw i fynd, ond mae yna lai a llai o adnoddau,” meddai. “Mae hwn yn rhoi tipyn bach o dampnar ar yr holl beth, ac mae’n anoddach i ymestyn ymhellach.

“Wrth gwrs, ry’n ni o dan bwysau anferthol i gyrraedd cenedlaethau a darllenwyr newydd, neu rai sy’ wedi colli’r arfer, a sut i’w tynnu ’nôl at lyfrau. Dyna’r heriau… Sut ry’n ni’n gwerthu’r syniad bod darllen llyfr yn beth da, hwyl, a chael pobol i brynu? Mae ystadegau yn dangos bod llai o bobol yn darllen ledled y byd.

“Rhaid cadw’n bositif, a thrio bod yn gadarn am yr impact… Mae’n rhaid i ni fynd drwy hwn nawr. A chanolbwyntio ar y pethe da, y pethe positif rydyn ni yn gallu eu gneud, yn hytrach na phoeni yn ormodol am bopeth dy’n ni heb allu eu gwneud. Dyna’r agwedd yn y diwedd o gorff sy’n arwain – byddwn ni’n parhau, yn gwneud ein gorau, yn gwneud cyfraniad gwych, a gawn ni weld sut mae’r byd yn troi allan flwyddyn nesa.”