O! Mor wych oedd y noson honno ym mis Medi 1997 pan enillwyd ein refferendwm ar ddatganoli i Gymru.

Am beth oeddem ni’n pleidleisio? Am ddyfodol mwy disglair. Am yr hawl i wneud ein penderfyniadau ein hunain. Am well democratiaeth.

Ymlaen â ni, felly, o dan arweinyddiaeth ein Prif Weinidog newydd, Humphrey Vaughan ap David Gething.

Rhaid diolch i’r undeb, Unite, am roi hwb iddo yn ei fuddugoliaeth dros Jeremy Miles.