Daeth taith y sioe gerdd wnes i ei chyfarwyddo i National Theatre Wales, sef Feral Monster, i’w therfyn yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu nos Wener, ac fe wnes i’r siwrne o Lundain i’w gweld. Roedd yn bleser gweld pa mor hyderus oedd yr actorion gyda’r gwaith – eu lleisiau a’u perfformiadau mor chwareus a phwerus. Roedden nhw wirioneddol yn berchen ar y sioe. Dyma un o’r pethau mwyaf boddhaus yn fy swydd fel cyfarwyddwr; perchnogaeth yr actorion o’r gwaith. Nhw sy’n mynd i fod yn perfformio bob dydd – felly mae’n bwysig.
Pan oeddwn yn fy ugeiniau cynnar, un o fy mreuddwydion oedd cael cyfarwyddo i’r Theatr Genedlaethol. Rwy’n hapus fy mod i wedi rhoi’r cyfle yna i’r Izzy 20 oed. Ac rwy’n gyfarwydd iawn gyda’r cwestiwn ddaw ar ôl i rywun weld rhywbeth rwyf wedi ei gyfarwyddo, sef: Beth nawr? Beth sydd nesaf?
Wel, gyfeillion, lot llai! Roedd 2022 yn flwyddyn fawr o ganolbwyntio ar fy ngherddoriaeth, a’r llynedd roeddwn yn gyfrifol am 12 prosiect cyfarwyddo, heb unrhyw saib.
Felly mae 2024 yn flwyddyn i mi ddod nôl at fy hun. Wrth gwrs mae gen i waith ymlaen, sef y gymysgfa arferol o sioeau, gweithio mewn ysgolion drama a hwyluso prosiectau theatr cymwysedig. Ond am y tro cyntaf mewn tua dwy flynedd, rydw i wedi haneru’r gwaith rwy’n bwriadu ei wneud.
Mae’n golygu llai o arian, ond mae o hefyd yn golygu canolbwyntio ar edrych ar ôl fy hunan yn well, a gorffwys mwy; a jest ddim bod yn rhyw fath o beiriant gwaith.
Roeddwn i wedi colli pwy oeddwn i wrth gladdu fy hun mewn gwaith. Fy ngwaith yn gyfarwyddwr a chantores oedd fy hunan sicrwydd, fy ngwerth, fy hunaniaeth.
Dyma sut yr ydw i wedi bod yn mesur fy llwyddiant fel bod dynol. Ar fy moment rydw i yn y broses o ail-ddysgu mai dim ond “gwaith” a “swydd” yw’r pethau hyn. Maen nhw’n hynod o bwysig i mi wrth gwrs, ond mae gen i ddiddordebau, uchelgeisiau a bodolaeth y tu allan i’w ffiniau. Mae yn anodd iawn i bobl greadigol gadw eu gwaith a’u hunaniaeth yn gyfan gwbl ar wahân. Rwy’n deall hyn yn dda iawn.
Felly pwy ydw i, heb y prysurdeb, y swydd ar ôl swydd, y teithio di-stop? Wel, rhywun sy’n cymryd yr amser i ddarllen llyfr gyda choffi cynta’r bore, neu eistedd yn yr ardd.
Rhywun sy’n ysgrifennu yn greadigol yn ddi-stop. Rydw i wastad wedi creu cymeriadau ffuglen, yn seiliedig ar beth bynnag rwy’n mynd trwyddo ar y pryd, neu ffilmiau a llyfrau rwy’n amsugno.
Mae o’n ffordd i fi brosesu stwff – dydw i byth yn ysgrifennu er mwyn i’r straeon gael eu rhannu.
Mae hyn, wrth gwrs, yn mynd yn erbyn y naratif o fod yn berson creadigol a chael eich hunan “allan yna” – ond mae fy ysgrifennu creadigol yn bodoli er mwyn i mi ei ddarllen, a neb arall. Ac mae hynny achos maen nhw yn fydoedd y galla i fyw ynddynt ar ben fy hunan.
Rydw i hefyd yn mynd nôl i redeg am y tro cyntaf ers blwyddyn. Rydw i’n mynd yn ôl i fod ar ben fy hun mwy. Rydw i’n mynd nôl i deithiau cerdded am oriau ar draws de Llundain. Rydw i’n mynd yn ôl at arddio’r jwngwl tu mewn i fy ystafell. Sa i’n gwybod os ydych chi erioed wedi gweld y ffilm am yr Hotel Chelsea yn y 1980au gan Arena (mae o ar BBCiplayer), ble maen nhw’n cyfweld gŵr sydd wedi creu jwngwl o blanhigion prin ac adar trofannol tu fewn i’w stafell yn y gwesty. Arwr.
Mae gen i obsesiynau gydag amseroedd mewn hanes, ac mae Gwesty’r Chelsea o’r 1960au hwyr i’r 1980au yn un ohonyn nhw. Cyfnodau eraill yw’r teithiwr oes newydd a diwylliant rêf y 1980au, Cyfnod Weimar Berlin a hanes y Sipsiwn Cymraeg o’r 1800au yng nghanolbarth Cymru! Sa i’n gwneud llawer gyda’r gwaith ymchwil yma, mae o jest yn llenwi fy chwant am wybodaeth a deall y cyfnodau yma mewn mwy o ddyfnder.
A dyma yw fy uchelgais mwyaf am 2024; deall pwy ydw i ar wahân i fy ngwaith, a byw a bodoli yn ôl un o fy hoff ymadroddion Cymraeg: “Dod nôl at fy nghoed”.