Mae’r Ceidwadwyr mewn ychydig bach o drafferth.

Difyr oedd sefyll ymhlith cefnogwyr Cymru yn y gêm yn erbyn y Ffindir, yn gwrando ar y dorf yn canu ‘Yma o Hyd‘ a ‘F*** the Tories’. Jest fel dyddiau Thatcher!

Nid yn unig am y blaid Lafur mae’r Ceidwadwyr yn gorfod poeni, ond hefyd am y blaid newydd, Reform. Plaid sy’n debyg o ddwyn pleidleisiau oddi ar Sunak a Starmer – ond sy’n annhebyg o ennill nifer fawr o seddi, diolch i system ‘cyntaf i’r felin’ Tŷ’r Cyffredin.