Mae’r undeb myfyrwyr cyntaf i Gymry Cymraeg yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed eleni. Dros yr hanner canrif aeth heibio, mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) wedi bod yn ei chanol hi wrth fynnu’r gorau i’r Gymraeg yn y Coleg ger y Lli. A fysa UMCA ddim yn UMCA heb lond casgen o draddodiadau cymdeithasol a chalendr llawn digwyddiadau.