Annog menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon ceir yw gobaith dawnswraig bale sydd newydd gael swydd newydd gydag elusen modura.

Tasg Ceris Mair James o Gastell Newydd Emlyn yw arwain gwaith yr elusen ‘FIA Girls on Track’ yng Nghymru.

Y bwriad yw ysbrydoli a grymuso merched i ystyried cyfleoedd yn y diwydiant chwaraeon moduro, ac mae Ceris ei hun yn rasio a thrwsio ceir a gwahanol beiriannau eraill.