Vaughan Gething sydd wedi ei ethol yn Arweinydd Llafur Cymru wedi iddo sicrhau buddugoliaeth denau dros Jeremy Miles, gan ddenu 51.7% o’r bleidlais.

Wrth i’r arweinydd newydd gymryd y llyw gan Mark Drakeford, mae sylwebyddion a gwleidyddion wedi bod yn darogan sut fath o Brif Weinidog fydd Vaughan Gething.

Mae cryn dipyn o feirniadaeth wedi bod yn sgil rhodd o £200,000 a dderbyniodd ar gyfer ei ymgyrch gan ddyn busnes fu yn euog o droseddau amgylcheddol.