Gyda Chymru o fewn dwy fuddugoliaeth i gyrraedd Ewro 2024 yn yr Almaen, Gwilym Dwyfor sy’n pwyso a mesur…

Dyma ni, mae’r gêm fawr wedi cyrraedd. Dros Gymru’n gwlad fydd hi yn erbyn Finlandia nos Iau a gobeithio y bydd ein hamddiffyn cryf yn ein cadw’n ffyddlon trwy’r gêm honno, ac y bydd gorfoleddus hoen yn chwythu eto dros erwau Stadiwm Dinas Caerdydd ychydig ddyddiau’n ddiweddarach wrth i Wlad Pwyl neu Estonia ymweld i frwydro am le yn yr Ewros yn yr Almaen.

Dyna ddigon o hynna, cyn i mi droi’n Nic Parry. Ymlaen at y pêl-droed…

Y garfan

Enwodd Rob Page ei garfan ar gyfer y gêm (neu’r gemau, gobeithio) dyngedfennol yr wythnos diwethaf. A’r syndod mwyaf mae’n debyg oedd gweld Aaron Ramsey wedi’i gynnwys ynddi. Mae tymor cyntaf Rambo yn ôl gyda Chaerdydd wedi cael ei lethu gan anafiadau a dim ond 102 o funudau dros dair gêm mae o wedi ei chwarae i’r Adar Gleision ers canol mis Medi.

Roedd y newyddion yn gymaint o sioc i reolwr Caerdydd, Erol Bulut, â phawb arall mae’n debyg ac roedd o’n feirniadol o sgiliau cyfathrebu Page (neu ddiffyg cyfathrebu yn hytrach). Efallai ei bod hi’n annhebygol y bydd Rambo’n chwarae llawer o rôl ar y cae, ond mae rhywun yn deall parodrwydd Page i gael un o’i chwaraewyr mwyaf profiadol o gwmpas y lle. Ben Davies i ddechrau fel y capten ar y cae a Ramsey fel capten y garfan o bosib?

Aaron yn ôl, felly, ond mae yna ambell absenoldeb. Mae Tom Bradshaw wedi bod allan o dîm Millwall ers cwpl o wythnosau oherwydd anaf ac mae chwaraewr canol cae Portsmouth Joe Morrell a chefnwr Sunderland Niall Huggins allan am weddill y tymor. Ac wrth gwrs, fydd Tom Lockyer druan ddim yn chwarae ar unrhyw gae pêl-droed yn y dyfodol agos, os o gwbl fyth eto. Mae ganddo ef broblemau iechyd llawer mwy difrifol na gwendid yn ei ffêr neu ben glin giami, ond braf oedd clywed y bydd o’n treulio ychydig o amser gyda’r garfan yn ystod y cyfnod rhyngwladol yma. Mae o’n gymeriad hoffus a hwyliog a bydd yr hogia’n falch o’i gael o gwmpas y lle.

Mae yna wastad ambell anaf ar y penwythnos olaf cyn y gemau rhyngwladol, ac ar ôl cael eu henwi yn y garfan yn wreiddiol, ni wnaeth yr amddiffynwyr Ben Cabango a Joe Low ymuno â’r gweddill yn y pen draw oherwydd anafiadau. Mae amheuaeth fawr am ffitrwydd Wes Burns hefyd, a gafodd ei eilyddio yn ystod hanner cyntaf buddugoliaeth swmpus Ipswich dros Sheffield Wednesday ddydd Sadwrn.

Anlwc un person yw cyfle un arall serch hynny ac mae ambell chwaraewr yn dychwelyd ar ôl cael eu gadael allan o garfanau diweddar. Mae Charlie Savage a Dylan Levitt yn dychwelyd ar ôl bod allan o’r garfan ddiwethaf ym mis Tachwedd, tra mae Morgan Fox a Rabbi Matondo yn ôl am y tro cyntaf ers mis Medi. Fox yn cael ei alw i mewn yn dilyn anafiadau Cabango a Low. Ac mae un yn dychwelyd wedi cyfnod dipyn hirach allan. Mae Rubin Colwill wedi bod yn adennill ei hyder gyda’r tîm dan 21 dros y flwyddyn ddiwethaf ond mae o’n ôl gyda’r tîm cyntaf y tro hwn, am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd yn Rhagfyr 2022.

Un sydd wedi bod mewn carfan yn gymharol ddiweddar ond ddim y tro hwn er gwaetha’r ffaith ei fod yn cael tymor da iawn ar fenthyg yn Dundee yw cefnwr Lerpwl, Owen Beck. Dichon mai fo yw’r un all deimlo’n fwyaf siomedig na chafodd ei gynnwys.

Mae’n amlwg ei bod hi’n haws cael eich hun yn ôl i garfan Page na mewn iddi am y tro cyntaf. Y prawf amlycaf o hyn yw’r ffaith nad oes lle i Will Evans ynddi, blaenwr Casnewydd sydd wedi sgorio 23 gôl yn yr Ail Adran y tymor hwn.

Pedwar golwr

Mae hi wastad yn hwyl dilyn yr ymateb i unrhyw garfan ar X (Twitter). A’r hyn oedd yn poeni pobl fwyaf y tro hwn yw’r ffaith fod yna bedwar gôl-geidwad ynddi. Wn i ddim yn iawn pam fod hynny’n codi gwrychyn cynifer. Mae Tony Roberts, yr hyfforddwr gôl-geidwaid, yn amlwg yn hoff o weithio gyda phedwar, ac mae’n eithaf cyffredin ymhlith gwledydd eraill i gael pedwar golwr mewn carfan o’r maint yma. Mae pedwar allan o 26 chwaraewr yng ngharfan ddiweddaraf Gogledd Iwerddon yn gôl-geidwaid, a phedwar allan o 25 yng ngharfan ddiweddaraf yr Alban. Mae carfan Cymru yn 28 chwaraewr, felly mae’r syniad hwn fod y pedwerydd golwr yn cymryd lle chwaraewr arall yn un hurt!

Rydw i’n poeni llawer mwy am eu diffyg munudau ar y cae. Rhwng y pedwar ohonynt, mae ganddynt un ymddangosiad y tymor hwn. Un! Rhwng y pedwar! Ac ymddangosiad Adam Davies mewn gêm gwpan i Sheffield United yn ôl ym mis Awst oedd hwnnw!

Ta waeth, bydd pawb wedi anghofio am hynny erbyn y gic gyntaf yn erbyn y Ffindir. Ac erbyn hynny, bydd ateb i’r cwestiwn sydd wedi bod ar feddyliau pawb ers wythnosau hefyd, sef pwy fydd y tri blaen!

Y tri blaen

Mae un peth yn sicr, ni allai Dan James fod wedi gwneud mwy dros ei achos, gyda gôl ym muddugoliaeth Leeds dros Millwall ddydd Sul, ei ddeuddegfed gôl gynghrair o’r tymor a’i ail mewn tair gêm. Wedi dweud hynny, mae pob un o’n hymosodwyr wedi bod ymhlith y goliau’n ddiweddar, gyda Kieffer Moore, Nathan Boradhead, Harry Wilson, David Brooks a Brennan Johnson i gyd yn sgorio dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.

Nid yw Liam Cullen wedi bod yn cael ei grybwyll fel rhan o’r drafodaeth hyd yn oed, ond fo oedd arwr yr Elyrch wrth i Abertawe drechu Caerdydd yn y darbi dros y penwythnos. Ac mae adferiad Ramsey yn mynd i roi cur pen ychwanegol, ond cur pen da fel maen nhw’n ei ddweud. Mae’r opsiynau’n ddi-ddiwedd a’r dyfnder yn bleser i’w weld.

Ond pe bai chi’n gofyn i Neco Williams a Ben Davies pwy yr hoffent ei gael o’u blaenau ar yr asgell chwith, dw i’n eithaf siŵr mai Dan James fyddai’r dewis, yr amddiffynnwr gorau heb os o blith ein chwaraewyr ymosodol.

Pwy bynnag fydd y dewis, fe fydd gan y rhan fwyaf ohonynt ryw rôl i’w chwarae, boed hynny o’r dechrau neu oddi ar y fainc, ac rwyf yn hyderus y bydd yr opsiynau hynny’n ddigon i ni drechu’r Ffindir.

Problem

Ond… mae gennym ni un broblem fawr yn ein haros ar ôl hynny… Sef, o bosib, chwarae gêm bwysig arall o fewn pum diwrnod.

Nid yw record Cymru mewn dwy gêm fawr yn agos at ei gilydd yn dda iawn. Rhaid mynd yn ôl at Dachwedd 2020 i ddod o hyd i’r enghraifft ddiwethaf o ddwy fuddugoliaeth gystadleuol yn yr un ffenestr ryngwladol, yn erbyn Iwerddon a’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Rhaid mynd yn ôl flwyddyn ym mhellach, a’r buddugoliaethau yn erbyn Azerbaijan a Hwngari yn Nhachwedd 2019, am ddwy fuddugoliaeth mewn gemau gwirioneddol allweddol.

A meddyliwch am yr haf bythgofiadwy hwnnw yn Ffrainc yn 2016 hyd yn oed. Bob yn ail gêm wnaethom ni eu hennill mewn 90 munud.

Fe weithiodd yr amgylchiadau trist yn yr Wcráin o’n plaid yr amser yma ddwy flynedd yn ôl, ac roedd misoedd rhwng y rownd gynderfynol yn erbyn Awstria a’r rownd derfynol yn erbyn yr Wcrainiaid pan wnaethom ni gyrraedd Cwpan y Byd 2022. Nid felly fydd hi’r tro hwn, bydd yn rhaid bod ar ben ein gêm eto ddyddiau’n unig yn ddiweddarach.

Ond dyna ddigon o ddarogan gwae! Bydd pethau’n wahanol y tro hwn. Gadewch i ni ddechrau gyda’r Finnish cyn rhoi’r Polish ar y cyfan.