Mae’r ferch 24 oed i’w gweld yn y ffilm Adra sy’n adrodd hanes dringo yn Llanberis a gogledd Cymru dros y ganrif ddiwethaf.

Daw o bentref Dinorwig, nid nepell o Lanberis, ac mae yn ennill ei bara menyn yn gosod llwybrau i ddringwyr eraill eu dilyn mewn canolfannau ar hyd a lled gwledydd Prydain.