Ni ddylen ni ystyried lluniau John Thomas o Gymry Oes Fictoria fel ‘creiriau hanesyddol’, yn ôl yr awdur Ruth Richards…
Siôn Sodom, Morris Babŵn, Eos Cymru, Talhaiarn, Swyddogion Capel y Ffôr. Dyma rai o’r bobol a gafodd dynnu eu lluniau gan ffotograffydd o’r enw John Thomas (1838-1905).
Ac yn ei hastudiaeth o luniau’r ffotograffydd, mae’r awdur Ruth Richards yn dweud bod eisiau rhagor o barch a sylw i’w artistwaith.