Mae citiau rhyngwladol pêl-droed wedi creu ychydig o stŵr yn ddiweddar. Yn Lloegr, roedd penderfyniad Nike i ddangos croes Sant Siôr mewn lliwiau enfys ar gefn crys y tîm cenedlaethol wedi digio rhai.

Fe gafodd citiau newydd Cymru eu rhyddhau hefyd, ac mae pawb i weld yn eu hoffi nhw. Mae dyluniad y cit cartref yn cynnwys streipiau gwyrdd a melyn sydd wedi bod yn boblogaidd ers y 1970au. Ac mae’r dyluniad y cennin pedr bach ar gefn y crys wedi digio neb yr ochr yma i Glawdd Offa.