O ddarllen Golwg wythnos yma fe welwch fod y dyn busnes Gari Wyn ond yn cymryd chwarter awr i ginio, a bod Rhys Mwyn byth yn stopio.

Mae Gari yn ddyn busnes llwyddiannus a Rhys wedi gwneud diwrnod rhagorol o waith dros y Sîn Roc Gymraeg, a’r ddau yn haneswyr adnabyddus hefyd wrth gwrs, a diolchwn am eu diwydiant.

Ond nid pawb sy’n gwirioni’r un fath, ac fe ges i flas garw ar ddiogi ddydd Gwener diwethaf.

Wnes i fwynhau yr hyn fyddai fy Nain yn ei alw yn Ddiwrnod i’r Brenin.

Mi godais o fy ngwely tua wyth o’r gloch i wneud panad, wedyn mynd nôl dan y dwfe am orig i ddarllen y penawdau newyddion ar fy ffôn.

Am chwarter wedi naw roedd angen codi a phiciad lawr i’r gampfa am chwysfa yn yr hyn a elwir yn Ddosbarth Sbin. Fydda’r ffasiwn olygfa yn ddieithr iawn i Nain – ryw ugain o bobol yn pedlo nerth esgyrn eu traed mewn stafell eitha’ tywyll, cerddoriaeth yn bowndio oddi ar y waliau, a neb yn symud modfedd ar feics sy’n mynd i unman.

Mae o’n swnio’n beth rhyfedd, o’i ddweud o fel yna. Ond mae bendithion Y Sbin yn hysbys i’r rheiny sy’n elwa o eneidfaeth yr endorffins.

Ac o’r gampfa i’r soffa a mwynhau orig estynedig – namyn codi am ryw bum munud i ferwi wyau i’w mwynhau mewn rholiau crysdi – yn llorweddol yn darllen Blasu gan Manon Steffan Ros.

Mae cael yr amser, y rhyddid a’r llonydd i ymgolli mewn llyfr da yn un o bleserau symlaf a hyfrytaf bywyd.

I’r rhai ohonoch sydd, fel fi, yn hwyr iawn i’r parti, mae Blasu yn stori emosiynol llawn gwewyr, gobaith, bywyd a bwyd. Ac mae’r ffaith fy mod wedi darllen y chweched argraffiad o lyfr gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn 2012 yn dweud rhywbeth, siawns.

A sôn am flasu, cefais fodd i fyw yn bochio bara brith Mam gyda fy mhaned dri. Prawf, wrth gwrs, fod bwyd cartref gan gwaith gwell na’r hyn a werthir yn y siopau mawr. Cymhariaeth nid oes.

Ia, hel ryw hen feddyliau bach rhyfedd fel yna’r oeddwn i ar fy Niwrnod i’r Brenin, a fedra i ond argymell eich bod chithau yn neilltuo amser ar gyfer ambell orig estynedig bob nawr ac yn y man.