Cyhoeddwyd y Sadwrn diwethaf mai Vaughan Gething fydd yn arwain y wlad dros y blynyddoedd nesaf, a bydd y dasg honno o bosib yn anos na’r un arall a wynebwyd gan ei ragflaenwyr, gan gynnwys cyfnod Covid. A rhaid cydnabod, ac yntau bellach yr arweinydd du cyntaf i arwain unrhyw wlad yn Ewrop, fod yna rywbeth arwyddocaol a chadarnhaol wedi digwydd.