Ar un olwg, mi fuodd Vaughan Gething yn lwcus. Petai’r wybodaeth am y cyfraniadau rhyfeddol at ei gronfa etholiadol wedi dod rhywfaint ynghynt, mae’n bosib iawn na fyddai wedi ennill.

Roedd rhai pobol eisoes wedi pleidleisio cyn i’r sgandal dorri’n iawn ac mae’n deg casglu y byddai rhai wedi cefnogi Jeremy Miles petaen nhw’n gwybod bod y fath broblemau ynghlwm wrth AoS De Caerdydd a Phenarth.