Wnes i ymweld ag ardal y Dordogne yn Ffrainc am y tro cyntaf yn ddiweddar. Fel arfer, pan ydw i  dramor,  fydda i’n defnyddio’r ap Futbology i ddarganfod gemau pêl-droed lleol i’w gwylio. Ond doedd yna ddim pêl-droed wedi ei restru o fewn 50 milltir o Meyssac, y pentref lle’r oeddwn i’n aros, tua deg milltir o Brive-la-Gaillarde.