Negyddol yw’r sgwrs am fewnfudwyr, ar y cyfan.

Ceir yn y penawdau gwynion am y nifer sydd wedi dod i Brydain yn gyfreithlon (1.2 miliwn yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2023). Ac, wrth gwrs, fe welwn gwyno cyson am fewnfudo anghyfreithlon, yn enwedig y rheiny sy’n croesi’r sianel yn y cychod bach.

Mae’r sgwrs yn San Steffan yn ffocysu ar Rwanda, diweithdra, GDP y pen, Islamiaeth eithafol, terfysgaeth, newid ein diwylliant, prinder tai a gwasanaethau cyhoeddus. Ac, wrth gwrs, y niferoedd.