Mae hi’n dymor gwobrau mewn sawl maes ar hyn o bryd, gyda’r BAFTAs a’r Oscars wedi bod dros yr wythnosau diwethaf.

Gwobrau llai adnabyddus, ond llawn cyn ddifyrred, yn enwedig o safbwynt Cymreig, oedd y New Voice Awards. Dathliad blynyddol y TV Foundation o bobl greadigol sydd yn gadael eu marc am y tro cyntaf yn y byd teledu yw’r NVAs. Cydnabod a meithrin talent newydd yn y diwydiant yw gôl y sefydliad, gan gynnwys ambell dalent cyfarwydd i ni yma yng Nghymru.