Tra bo’i phlaid yn plymio’r iselfannau, ac yn wir yn crafu gwaelod y gasgen yn ôl rhai am amddiffyn y dyn busnes dadleuol Frank Hester, mae Virginia Crosbie wedi bod yn codi yn y byd.

Nid cweit i’r nefoedd, ond bu Aelod Seneddol Torïaidd Y Fam Ynys ar ben Bont Borth i wel drosdi hi ei hun yr atgyweirio sy’n digwydd yno.

Disgwylir i’r gwaith ddod i ben ym mis Medi 2025 – yn barod ar gyfer dathlu daucanmlwyddiant y bont yn nechrau 2026.