Mae Cylch yr Iaith eisiau sicrwydd y bydd y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn diogelu enwau lleoedd Cymraeg drwy ddeddfwriaeth. Gyda’r Cytundeb yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, mae’r mudiad wedi anfon at Jeremy Miles AoS, Gweinidog y Gymraeg, ac at Cefin Campbell AS, Aelod Dynodedig Plaid Cymru yn y mater penodol hwn, yn galw am gadarnhad y bydd gwarchodaeth statudol i enwau lleoedd Cymraeg.