Diffyg tai fforddiadwy, y dirywiad mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, a dyfodol ffermio – dyna sy’ dan sylw mewn sioe newydd sy’n seiliedig ar eiriau pobol go-iawn…

Ar ôl byw yn Llundain a chynnal gyrfa yn actio am fwy na 10 mlynedd, mae Ceri Ashe wedi dod adre i Sir Benfro i fyw. At hyn, mae hi wedi creu sioe theatr sydd yn defnyddio geiriau trigolion y sir, yn trafod gwreiddiau, perthyn a sut mae cymunedau’n newid.