Darllenais yn ddiweddar erthygl ar bwnc sy’n prysur godi’i ben, sef marwolaeth drwy gymorth, neu ewthanasia. Fe’i hysgrifennwyd gan ferch sy’n anabl yn mynegi pryderon gwirioneddol sydd gan rai yn ei gylch, yn enwedig o safbwynt pobl anabl. Alla i ddim ymhelaethu ar hynny’n bersonol, nac ysgrifennu ar y pwnc yn ddigon helaeth mewn colofn, ond i fynegi os ydyn ni am gael y sgwrs, rhaid i bawb fod yn onest amdano.