Mae wythnos yn amser hir … dyna’r hen air gwleidyddol. Ac mae yna ambell wythnos sy’n cael effaith am flynyddoedd. Mae’n bosib fod hon yn un o’r rheiny.

Yr ochr draw i’r Iwerydd, mae wedi dod yn gwbl amlwg – os nad oedd hi cynt – mai Joe Biden a Donald Trump fydd yn cystadlu am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau… os na fydd daeargryn yn digwydd.