Wythnos ers cwyno am agwedd afiach dau gwmni tuag at y Gymraeg, braf yw cael adrodd bod un archfarchnad yn ceisio ein parchu.
Mae cwmni OVO Energy, sy’n gwerthu nwy a thrydan yng Nghymru, bellach wedi rhoi’r gorau i ddarparu llythyrau a biliau yn Gymraeg.
O hyn allan, fe gaiff eu cwsmeriaid fil Saesneg ar e-bost, ac mae croeso iddyn nhw ei roi drwy beiriant cyfieithu Google Translate, er mwyn ei ddarllen yn Gymraeg.