Yn ganwr gyfansoddwr 26 oed o Gaernarfon sydd newydd ryddhau’r sengl ‘I Dated a Monster’, ‘Catty’ yw enw llwyfan Catrin Hopkins sy’n denu cannoedd o filoedd i ffrydio ei chaneuon.

 Mae hi newydd fod ar daith “anhygoel” o wledydd Prydain ac Iwerddon gydag artist o Essex.