Mytholeg a dathlu cymeriadau LHDTC+ yw prif thema gwaith celf arlunydd o Gaerdydd sy’n hoffi cael hwyl gyda’i lluniau.

Daw Mari Phillips yn wreiddiol o bentref Llandysilio ger Arberth yng nghanol Sir Benfro, ac mae yn rhedeg busnes ‘Myths n Tits’, a daw ei hysbrydoliaeth o chwedlau Cymru’n aml iawn.