Tybiaf fod y ddadl ‘a yw seico-ddaearyddiaeth yn gweithio yn y dirwedd wledig’ yn un niche go-iawn. Sgwn i os oes unrhyw un erioed wedi colli cwsg dros hyn? Go brin! Ond, os yw gwreiddiau’r dechneg o grwydro ac archwilio’r dirwedd ddinesig yn deillio o syniadaeth y Situationists International a Guy Debord (1955) ac wedyn yn ddiweddarach llyfrau rhai fel Iain Sinclair yn archwilio’r M25, rhaid oedd camu ymlaen gyda hyder i ddefnyddio’r un technegau yn y dirwedd wledig.