Mae Cân i Gymru wedi bod yn sioe grwydrol dros y blynyddoedd, sydd â’i fanteision wrth gwrs, ond mae safon a maint y lleoliadau hynny wedi amrywio, a dweud y lleiaf. Glaniodd y ffair yn arena newydd Abertawe am y tro cyntaf eleni ac roedd yna fwy o deimlad o ddigwyddiad yn perthyn i’r holl beth. Gofod eang mewn adeilad modern, ac o’r set fawr drawiadol i’r rig goleuo uchelgeisiol, roedd naws mwy proffesiynol i’r cynhyrchiad rhywsut. A chynulleidfa deilwng hefyd gydag ychydig o d