Ers i mi deithio gyda Syr Wyn Roberts i bedwar ban byd, rwyf wedi ffansïo bod yn llysgennad.

Tra’n Ysgrifennydd Preifat iddo (amser maith yn ôl) bûm yn aros yng nghartrefi moethus llysgenhadon Prydain mewn dinasoedd megis Paris, Milan, Toronto, Kuala Lumpur a mwy.

Rwy’n cofio’r gwaith celf drudfawr ar y waliau. Turner! Constable! Hockney! Y gweision ufudd yn gofalu am bopeth! Yr Earl Grey a’r fine-bone china!