Tan yr wythnos diwethaf, roedd sefyllfa pêl-droed menywod yng Nghaerdydd yn ddryslyd i’r rhai sy ddim yn dilyn y gêm yn agos. Mae tîm Cardiff City FC Women yn gysylltiedig gyda’r tîm dynion proffesiynol, ond mae’r tîm menywod yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru. Ac mae Cardiff City Ladies wedyn yn glwb hollol annibynnol, gyda dim math o gysylltiad gyda’r dynion. Ond eto, maen nhw yn chwarae yn system Lloegr.