Ar ôl 40 mlynedd, mae yna sylw teg i frwydr ddiwydiannol fawr ola’ gwledydd Prydain – Streic Glowyr 1984. Ond mae’r stori’n fwy na hanes: mae yna wersi sy’n fyw o hyd.

Bellach, mi allwn ni weld yn gliriach be ddigwyddodd a’r ffordd y cafodd degau o filoedd o weithwyr a’u cymunedau eu haberthu – gan rym dienaid Llywodraeth ar un ochr a gor-hyder ideolegol ar y llall.