Yn ddiweddar fe gafodd corff arolygu addysg Cymru ei gyhuddo o “or-ganmol” ar wefan golwg360 [‘Canmol dirywiad: Estyn a’r Gymraeg’ gan y Cynghorydd Rhys Tudur], a hynny yn benodol ynghylch addysg yng Nghyngor Gwynedd. Mae’n debyg i Estyn yn ei chanmoliaeth anwybyddu rhai pethau sylfaenol, o gwtogi lleoedd mewn canolfannau trochi iaith y sir i’r ffaith i nifer y disgyblion uwchradd sy’n astudio’u holl bynciau TGAU yn Gymraeg ostwng mewn cyfnod o bum mlynedd rhwng 2017 a 2022. Mae pethau’n ddisyndod waeth draw yn Sir Fôn, gydag ond tua thraean o ddisgyblion yr ynys yn cael y mwyafrif o’u haddysg yn Gymraeg. Yn wahanol i ddadansoddiad Estyn o’r sefyllfa, mae’n amlwg bod addysg Gymraeg – un o’r pethau hanfodol sy’n helpu i gynnal y Gymraeg yn nwy sir y gogledd-orllewin – yn dirywio yn y rhan honno o’r wlad.
Ac, fel Estyn, rydym ni fel Cymry Cymraeg, yn ein harwydd dealladwy ond parhaol a blinedig i beidio ag wynebu’r gwir, yn tueddu i gau ein llygaid i’r gwirionedd.
Hefyd felly Lywodraeth Cymru, yn ei hamcan cwbl amhosib erbyn hyn i sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae eisoes wedi ei baglu ei hun gyda chynnydd gresynus addysg Gymraeg ers datganoli. Ugain mlynedd yn ôl roedd 19% o’n disgyblion mewn ysgolion cynradd Cymraeg, y ffigur diweddaraf yw ychydig dan 22.5%; cynnydd o 0.175% y flwyddyn.
A dwi wedi blino darllen ar-lein y ffantasi yma bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn cynyddu – rhywbeth mae rhai pobl yn dal ati i’w arddel drwy anwybodaeth neu ymdrech gamarweiniol i amddiffyn y Gymraeg rhag y sawl sy’n ymosod arni. Erbyn y cyfrifiad diwethaf, roedden ni’n fwy o leiafrif nag yr ydyn ni erioed wedi bod. Nid ystadegau sy’n dangos hynny’n unig – gall llawer ohonom dystio iddo ond drwy adael y tŷ.
Hwyrach fod S4C wedi denu gwylwyr newydd, ond dim ond drwy gynhyrchu rhagor o gynnyrch dwyieithog sy’n tanseilio’i chenhadaeth wreiddiol, a darlledu gemau pêl-droed a rygbi. A gwelsom yn ddiweddar i ffigurau Radio Cymru, sydd heb ddilyn trywydd y Sianel o leiaf, ostwng i’w lefel isaf erioed.
A does dim wedi’i wneud i annog neu alluogi ein pobl ifanc i aros mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg dal yn brif iaith, neu ddychwelyd iddynt. A hyd yn oed wedyn, mae’r felltith o Gymry Cymraeg yn siarad Saesneg â’u plant yn dal i danseilio gwreiddiau’r iaith, hyd yn oed yn ei chadarnaf gadarnleoedd; hwythau’n gwegian eisoes dan ormes y farchnad dai rydd.
Ylwch, dydw i ddim yn dweud nac yn credu bod hyn oll yn golygu nad oes yna obaith i’r Gymraeg – mae yna ddigon o obaith. Y peryg mawr ydi ein bod ni’n hunain, fel Estyn, yn troi’r gobaith hwnnw’n or-ganmol ac anwybyddu’r heriau, nes twyllo’n hunain i gredu y byddwn yma hyd ddydd y Farn waeth beth sy’n digwydd.